Meals and Snacks
Cinio Ysgol
Mae’r ysgol yn darparu cinio iach AM DDIM i ddisgyblion y Dosbarth Derbyn i flwyddyn 2, gyda chynlluniau i gynyddu’r ddarpariaeth hon yn fuan.
Efallai eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran ffurflenni ar wefan ein ffederasiwn.
Ar hyn o bryd mae gofyn i rieni disgyblion Blwyddyn 3-6 dalu am fwyd eu plentyn gan ddefnyddio Parentpay. Mae gwybodaeth am gost, bwydlen a sut i dalu ar gael ar wefan cyngor sir Ceredigion. School Meals - Ceredigion County Council
Pecyn bwyd
Os nad yw eich plentyn eisiau cinio ysgol, mae croeso i chi ddarparu pecyn bwyd iach.
Cofiwch -
• Cynhwyswch fwydydd iach
• golchwch focs bwyd eich plentyn yn rheolaidd
• rhowch becyn iâ yn y bocs bwyd i gadw'r bwyd yn ffres
Dewch o hyd i rai syniadau yn y dolenni isod.
Dŵr
Darparwch botel ddŵr i'ch plentyn os gwelwch yn dda. Mae ffynnon ddŵr ar gael yn yr ysgol ar gyfer ail-lenwi.
Ni chaniateir dod â sudd na diodydd swigof i’r ysgol.
Cofiwch olchi'r botel yn rheolaidd.
Llaeth
Darperir llaeth i bob plentyn o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 2 i'w yfed yn ddyddiol. Os oes gan eich plentyn alergedd i laeth, rhowch wybod i'r ysgol.
Tocyn
Darparwch ddarn o ffrwythau/llysiau i’ch plentyn fwyta yn ystod y dydd.
Dyma rai syniadau:
Ffrwythau/llysiau ffres – oren, mafon, banana, afal, melon, mefus, ffyn moron, ffyn ciwcymbr, olewydd,
Ffrwythau sych - rhesins, bricyll, llugaeron, tomato sych, cnau
Llysiau wedi'u piclo - picls,