Skip to content ↓

Active Travel

Fel ysgol yng nghanol pentref Penrhyn-coch, mae cerdded, seiclo a sgwtera i'r ysgol yn hynod o hawdd! Mae'r ysgol wedi cefnogi llawer o fentrau dros y blynyddoedd sydd wedi gweld gwelliant ym mhalmentydd yn y pentref, terfynau cyflymder a chroesfannau newydd, yn sicrhau teithio diogel i'r ysgol.

Mae Senedd yr Ysgol yn hyrwyddo cerdded, sgwtera a beicio i'r ysgol drwy gydol y flwyddyn gyda digwyddiadau fel y Pedal Fawr, Wythnos Cerdded i'r Ysgol a chymryd rhan yn yr Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i'r Ysgol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Sustrans ar y digwyddiadau hyn. Mae gennym ddwy sied feiciau yn yr ysgol i gadw beiciau a sgwteri yn sych. Darllenwch ein cynllun gweithredu isod.

Mae rhai o’n disgyblion yn byw tu allan i’r pentref. Mae’r llwybr teithio llesol isod yn dangos mannau lle gallwch barcio, ac yna beicio, sgwtera neu gerdded i’r ysgol yn ddiogel.