Ar y dudalen yma fe welwch wybodaeth ddefnyddiol os ydych yn rhiant newydd, neu eisoes yn rhiant. Mae pob dim sydd angen gwybod i’w weld yn ein prosbectws islaw. Fel Ysgol Eco, ceisiwn fod yn ddi-babpur gymaint a phosib. Er hynny, os hoffech gopi papur o’r prosbectws, mae croeso i chi gysylltu.
Cliciwch y ddelwedd islaw i gael mynediad i’r prosbectws. Cyfathrebu a thaliadau Defnyddia’r ysgol system gyfathrebu Parentmail ar gyfer danfon llythyron electronig, nodi absenoldebau, a thalu yn digidol ar gyfer tripiau ayyb. Ar ôl i chi ddarparu eich gwybodaeth gyswlly, gyda’ch manylion e-bost byddwch yn cael gwahoddiad i gofrestri ar gyfer Parentmail. Os oes unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt, amgylchiadau neu anghenion meddygol eich plentyn dychwelwch gopi newydd o’r ffurflen i’r ysgol. Addysg Gorfforol Mae disgyblion yn nofio am yn ail wythnos ar brynhawn dydd iau. Mae amserlen gwersi addysg gorfforol i’w weld ar galendr yr ysgol. Yn y Cyfnod Sylfaen mae’n handi dod a chit addysg gorfforol (crys t, trowsus/trowsus byr, siwmper a trainers) ar ddechrau’r tymor mewn bag wedi labeli gydag enw i’w adael ar fachyn yn yr ysgol. Medrwch ei olchi ar ddiwedd y tymor. Gofynnwn i blant ddod a chit addas bob wythnos yng Nghyfnod Allweddol 2. Dysgu Adref Mae tasg gwaith cartref a gweithgareddau darllen yn cael eu danfon adref yn wythnosol yn y dosbarth Derbyn. Ym mlynyddoedd 1-6 caiff ddisgyblion darllen, darn o waith cartref, prawf sillafu a phrawf rhifedd wythnosol. Gwisg Ysgol Mae’n bosib archebu gwisg ysgol o gwmni Ffigar neu o gwmni Alison Jones. Ein gwisg yw Siwmper Glas tywyll, Crys polo ch neu melyn, sgert/trowsus du, esgidiau du. Mae bagiau llyfr i gael hefyd sydd yn handi iawn ar gyfer cario gwaith cartref a llyfrau darllen. Rhowch enw eich plentyn ar bob peth! Ymddygiad Mae’r ysgol yn defnyddio rhaglen class dojo i wobrwyo disgyblion. Gofynnwch eich athrawes ddosbarth am wybodaeth mewngofnodi. Clwb Brecwast a Chlwb ar ôl ysgol Mae’r ysgol yn cynnig clwb brecwast bob bore am 8.15yb ac yn darparu brecwast iachus yn rhad ac am ddim. Mae clwb ar ôl ysgol ar gael ar safle’r ysgol yng Nghylch Meithrin Trefeurig. Cost sesiwn: 3.30pm -4.30pm £3.50 a 3.3pm- 6pm £6.50 Nos Llun-Nos Wener. Cinio Mae’r ysgol yn darparu cinio ysgol iachus am £2.35. Mae rhagor o wybodaeth am giniawau ysgol a bwydlen y tymor ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Os nad ydych eisiau cinio, mae croeso i chi ddod a phecyn bwyd iachus i’r ysgol. Nid ydyn yn cymeradwyo dod a cacennau, siocled neu gormodedd o fwyd wedi prosesu. Darparwch potel ddŵr i ddisgyblion, mae ffynnon ddŵr ar gael yn yr ysgol. Ni chaniateir dod a sudd neu diodydd swigod i’r ysgol. Mae angen dod a thocyn yn y prynhawn fel afal, oren etc. Mae siop ffrwythau ar gael yn yr ysgol am gost o 20c. Cinio Ysgol Am Ddim Mae cyllid yr ysgol yn ddibynnol yn rhannol ar nifer y disgyblion sy’n derbyn prydiau ysgol am ddim. Llenwch ffurflen os tybiwch eich bod yn gymwys. Eiddo Personol Gofynnwn yn garedig i chi osgoi dod ag eiddo personol fel teganau ac eiddo gwerthfawr i’r ysgol – gyda llu o fysedd bach mae tuedd i bethau fynd ar grwydr neu cael eu malu! Presenoldeb Mae presenoldeb yn effeithio’n ddifrifol ar gyrhaeddiad eich plentyn. os fydd eich plentyn yn absennol am unrhyw rheswm rhowch wybod trwy parentmail, ebost neu ffoniwch. Os fedrwch wneud bob ymdrech i drefnu apwyntiadau meddygol tu allan i oriau’r ysgol buaswn yn gwerthfawrogi. Llenwch y ffurflen yn yr atodiad i adrodd unrhyw absenoldebau a gynllunwyd. Meddyginiaeth Os oes angen i aelodau staff weinyddu moddion i’ch plentyn, llenwch y ffurflen yma. Caniatâd Gweler y ffurflen wedi atodi yn rhoi caniatâd am weithgareddau amrywiol yn ystod y flwyddyn.
|