Croeso i Ysgol Penrhyn-coch!!
Croeso cynnes i chwi i Ysgol Penrhyn-coch
Dyma ysgol wir gymunedol a leolir yng nghanol pentref gwledig Penrhyn-coch, ac mae’n gwasanaethu plant a theuluoedd y pentref ei hun ac ardal ehangach cymuned Trefeurig.
Boed trwy gymryd rhan yn Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch, Sioe’r Penrhyn, cyfrannu i’r Tincer neu gefnogi’r Clwb Pêl Droed lleol, ymfalchïwn yn y cyfleoedd y mae ein milltir sgwâr yn eu cynnig inni fagu parch a chariad at fro eu mebyd ymysg ein disgyblion.
Trwy gydweithio’n agos ag Ysgol Pen-llwyn, Capel Bangor, o dan arweiniad yr un Pennaeth, mae tîm brwd ac ymroddgar o staff, rhieni a llywodraethwyr yn gweithio’n galed i sicrhau profiadau dysgu cyfoethog ac awch i lwyddo ymysg ein disgyblion.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig er mwyn sicrhau ein bod yn magu dinasyddion i Gymru’r dyfodol sydd yn falch o’u treftadaeth.
Porwch ein gwefan am ragor o wybodaeth, neu cysylltwch i wneud apwyntiad am ymweliad er mwyn i chwi brofi awyrgylch a naws deuluol yr ysgol hon.
Catryn Lawrence
Pennaeth